Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Sioux |
Crefydd | Wocekiye, lakota religion |
Rhan o | First Nations, Brodorion Gwreiddiol America yn UDA |
Yn cynnwys | Oglala Lakota, Lower Brule Sioux Tribe, Miniconjou, Hunkpapa, Sihasapa, Sans Arc, Two Kettles |
Gwladwriaeth | Canada, Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp o frodorion Gogledd America yw'r Lakota (hefyd Lakhota, Teton neu Titonwon). Hwy yw'r mwyaf gorllewinol o dair cangen y Sioux, gyda'u tiroedd yn naleithiau Gogledd Dakota a De Dakota. Maent yn siarad yr iaith Lakota, un o dair prif tafodiaith yr iaith Sioux. Ceir saith cangen o'r Lakota: y Brulé, Oglala, Sans Arcs, Hunkpapa, Miniconjou, Sihasapa a'r Two Kettles.
Roedd tua 20,000 o Lakota yng nghanol y 18g; erbyn hyn mae tua 70,000, gyda tua 20,500 o'r rhain yn siard yr iaith Lakota. Yn y 19g bu llawer o ymladd rhwng y Lakota a byddin yr Unol Daleithiau. Roedd ardal y Bryniau Duon yn gysegredig i'r Lakota, ac roeddynt yn bendefynol o'i amddiffyn. Llwyddodd y Lakota gyda'r Arapaho a'r Cheyenne o orchfygu'r cadfridog George Crook ym Mrwydr y Rosebud, ac wythnos yn ddiweddarch i orchfygu'r Seithfed Marchoglu dan George Armstrong Custer ym Mrwydr Little Big Horn yn 1876, gan ladd Custer a 258 o'i filwyr. Yn y diwedd, fodd bynnag, bu raid iddynt ildio i'r fyddin, a gyrrwyd hwy i warchodfeydd. Yn 1877 gorfodwyd hwy i arwyddo cytuneb yn trosglwyddo'r Bryniau Duon i'r Unol Daleithiau.
Erbyn heddiw ceir y mwyafrif o'r Lakota mewn pump gwarchodfa yng ngorllewin De Dakota: Rosebud(y Brulé), Pine Ridge (Oglala), Lower Brulé (Brulé), Cheyenne River (nifer o ganghennau, yn cynnwys y Sihasapa a'r Hunkpapa), a Standing Rock (nifer o ganghennau).